|
Croeso i wefan
Clwb Rygbi “CHSOB”. Mae`r
safle yn cael
ei ddiweddaru ar
hyn o bryd
ac felly ymddiheuriadau am
unrhyw anghyfleustra.
Mae hanes Clwb
Rygbi CHSOB yn
mynd yn ôl
i 1921. Yn
1962 gwireddwyd uchelgais
y clwb pan
ddaeth yn un
o`r ychydig glybiau
yng Nghymru i
fod yn berchen
ar ei dir
ei hun mewn
man dymunol ar
ymyl y ddinas. Cynhaliwyd nifer
o gêmau rygbi
pwysig ar faes
Diamond sydd wedi
ei enwi ar
ôl cyn brifathro`r ysgol,
yn cynnwys gêmau
yng Nghwpan y
Byd i fenywod.
Defnyddir y cyfleusterau i
ymarfer gan garfanau
cenedlaethol sy`n ymweld
â`n gwlad.
Ar hyn o
bryd mae`r clwb
yn cynnal 3
thїm dynion ac
1 i fenywod
ac adran gref
ieuenctid ac oedrannau
iau, sy`n cynnwys
tїmau bechgyn [dan
14, 16 ac
19] a 2
dїm merched [dan
15 a 18].
Mae cysylltiad agos
gyda CRICC
sy`n adran Gymraeg
ei hiaith ar
gyfer yr holl
oedrannau o dan
7 hyd at
dan 13 oed.
Mae gan y
clwb gyfleusterau ardderchog ar
gyfer chwarae ac
ymarfer [3 maes]
ac ystafell “codi
pwysau”. Mae rhan
o adeilad y
clwb ar gael
i`w logi ar
gyfer partїon [yn
cynnwys 18 oed]
ac achlysuron arbennig
tebyg. Os am
fwy o wybodaeth
ar sut i`w
logi cliciwch yma.
|